Odgers berndtson
Location and language United Kingdom | EN

Polisi Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym ni’n prosesu data personol, (i) pan fyddwch chi’n ymweld â’r wefan hon a (ii) pan fyddwch chi’n rhyngweithio â’n busnesau byd-eang sy’n darparu Gwasanaethau chwilio, ymgynghori ac asesu, gan gynnwys sut mae’n effeithio ar ein gwefannau: www.odgersberndtson.com, www.berwickpartners.co.uk, www.odgersinterim.com, www.odgersinterim.ca, www.berwicktalentsolutions.com, www.odgersconnect.com a (iii) pan fyddwch chi’n ymwneud â ni ynghylch ein Gwasanaethau. Hefyd, mae’n cynnwys gwybodaeth am sut rydym ni’n prosesu gwybodaeth bersonol o ganlyniad i ddarparu ein Gwasanaethau i drydydd partïon (h.y. ein cleientiaid). 

Pwy ydym ni 

International Resources Group Limited ydym ni. Rydym ni’n gwmni cofrestredig yn y Deyrnas Unedig gyda’r rhif cofrestru 03478039 ac mae ein swyddfa gofrestredig yn 20 Cannon Street, Llundain EC4M 6XD.
 
Rydym ni’n cynrychioli’r busnesau byd-eang sy’n masnachu dan enwau Odgers Berndtson, Berwick Partners, Odgers Interim ac Odgers Connect. Mae rhagor o wybodaeth am ein cwmni a’n swyddfeydd byd-eang i’w gweld trwy glicio yma.
 
Mae Odgers Berndtson yn fusnes byd-eang chwilio am swyddogion gweithredol gan arbenigo ar Wasanaethau chwilio, rheolaeth ac arweinyddiaeth interim, a gwasanaethau asesu a ymgynghorwyr rheoli (“ein Gwasanaethau”). Rydym yn nodi unigolion i lenwi rolau gyda sefydliadau cleient mewn busnes a bywyd cyhoeddus. Rydym yn gweithredu trwy nifer o endidau cyfreithiol sydd â chyfansoddiad ac sy’n cael eu rheoleiddio ar wahân, i ddarparu’r Gwasanaethau hyn yn unol â chyfreithiau perthnasol yr awdurdodaeth y maent yn gweithredu ynddi. Mae manylion endidau gwahanol Odgers Berndtson sy’n darparu’r Gwasanaethau hyn neu Wasanaethau eraill i gleientiaid i’w gweld yma.
 
Nodwch y gall pa un endid Odgers Berndtson bynnag y byddwch chi’n cysylltu ag ef hefyd fod yn rheolydd data sy’n gyfrifol am brosesu eich gwybodaeth bersonol yn gysylltiedig â’r Gwasanaethau a ddarparwn. 

Mae Odgers Berndtson ("ni") yn ymrwymo i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel a’i rheoli yn unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol, o dan y deddfau preifatrwydd a diogelu data sy’n berthnasol lle bynnag y byddwn yn gweithredu yn y byd, ynghyd â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU ynghyd â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Rheoliad (EC) 2016/679 (“GDPR”) yn yr Undeb Ewropeaidd (“UE”).
 
Mae ein safonau’n rhagori ar safonau’r Association of Executive Search and Leadership Consultants, yr ydym yn aelod ohono.
 
Rydym yn adolygu’r Polisi Preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd.
 
Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2023 fel y dangosir yn y dyddiad diwygio diwethaf a nodir ar y dudalen hon. Darllenwch dros y polisi hwn o bryd i’w gilydd i weld unrhyw newidiadau.

I bwy y mae’r polisi hwn yn berthnasol 

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i chi p’un a ydych chi’n ymgeisydd i un o’n cleientiaid, yn unigolyn rydym ni’n ei asesu fel gweithiwr i un o’n cleientiaid, yn gleient neu p’un a ydych chi’n ffynhonnell neu’n ganolwr ar gyfer ymgeisydd neu weithiwr i un o’n cleientiaid. 
 
Yn ogystal, bydd y polisi hwn yn berthnasol i chi os dewch i un o’n digwyddiadau neu os ydych wedi tanysgrifio i dderbyn gwybodaeth am ein Gwasanaethau neu unrhyw rai o’n deunyddiau marchnata, fel ein cylchlythyr rheolaidd, OBSERVE.
 
At ddibenion y polisi hwn:

mae ymgeisydd/ymgeiswyr yn golygu unigolyn sy’n ymgeisydd, ymgeisydd posibl, gweithiwr i gleient;
 
mae cleient/cleientiaid yn golygu unrhyw fusnes, cwmni, sefydliad, corff llywodraethol neu unigolyn sy’n gorchymyn i ni gyflawni unrhyw rai o’n Gwasanaethau; 
 
mae canolwr yn berson sy’n darparu geirda personol neu eirda gwaith ar gyfer ymgeisydd; ac
 
mae ffynhonnell yn berson sy’n rhoi gwybodaeth i ni am ymgeisydd.

Casglu gwybodaeth  

Mae ein cleientiaid yn disgwyl ein bod yn nodi’r unigolion gorau i lenwi rolau yn eu sefydliadau. Felly, mae angen i ni ymchwilio i systemau, cronfeydd data ar-lein a ffynonellau gwybodaeth eraill, a siarad â llawer o unigolion. Heblaw ein cleientiaid, bydd y rhain yn cynnwys canolwyr a ffynonellau i helpu llywio ein proses gwneud penderfyniadau.
 
Mae natur ein gwaith yn golygu ei fod yn ofynnol i ni brosesu data personol yn gyflym, yn gyfrinachol ac, yn aml, heb gyfeirio at destun y data. Yn unol â hynny, rydym yn prosesu data o’r fath yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data, gan ddefnyddio ein buddiant dilys yn rheolaidd lle nad yw’n bosibl nac yn ymarferol siarad â thestun y data yn uniongyrchol. Y tu hwnt i hyn, byddwn yn ceisio cydsyniad o dan amgylchiadau sy’n cael eu hesbonio yn nes ymlaen yn y ddogfen bolisi hon. 
 
Rydym ni’n casglu gwybodaeth gan ymgeiswyr yn uniongyrchol pan fyddwch yn lanlwytho eich CV neu eich disgrifiad (résumé) i’n porth ymgeiswyr neu pan fyddwch yn ei anfon atom drwy’r e-bost neu’r post. Hefyd, byddwn yn casglu gwybodaeth gennych pan fyddwch yn siarad â gweithiwr gydag Odgers Berndtson mewn unrhyw swyddfa o gwmpas y byd. 
 
Yn ogystal, rydym yn casglu gwybodaeth gennych mewn ffyrdd awtomataidd, gan gynnwys trwy ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg (gweler adrannau 18 ac 19 y polisi hwn) ynghyd â thrwy ddefnyddio picseli a thocynnau tracio yn ein gohebiaeth e-bost (e.e. i ddeall p’un a ydych chi wedi agor e-bost marchnata gennym).
 

Sut rydym ni’n defnyddio eich data personol 

Ymgeisydd  

Rydym ni’n defnyddio’r data personol a gasglwn gennych at nifer o ddibenion:

  • Prosesu ceisiadau am swydd, mewn partneriaeth â’n cleientiaid, yr ydym wedi cael cyfarwyddyd i helpu llenwi swydd wag ar eu rhan. Hynny yw, os byddwch chi’n gwneud cais am swydd benodol, gallem drosglwyddo eich manylion i’r cleient perthnasol i fwrw ymlaen â’r cais. O ganlyniad, gallech gael gohebiaeth bellach yn uniongyrchol oddi wrthyn nhw.  

  • Chwilio am ymgeiswyr perthnasol i aseiniadau recriwtio cyfrinachol lle nad yw ein cleient yn cael ei enwi yn y lle cyntaf. Hynny yw, os credwn eich bod yn addas ar gyfer rôl benodol, gallem drosglwyddo eich manylion sylfaenol i’r cleient perthnasol. Os bydd y cleient hwnnw yn cytuno y gallech fod yn addas, byddwn wedyn yn trafod hyn gyda chi yn fanylach. Gallai un o’n hymgynghorwyr eich cyfweld ar gyfer y rôl. Os byddwch yn llwyddiannus, gallai ein cleient eich cynnwys ar restr fer ar gyfer cyfweliad. Bryd hynny, byddwn yn trosglwyddo manylion pellach i’r cleient a gallech gael gohebiaeth bellach yn uniongyrchol oddi wrthyn nhw. 

  • O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnal prosesau mapio neu ymchwil ar ran ein cleientiaid i’w galluogi i ddeall marchnad benodol. Bryd hynny, gallem gynnwys agweddau penodol ar eich data personol. Ni fydd unrhyw drydydd parti yn cysylltu â chi am hyn oni bai ein bod wedi cael eich cydsyniad yn y lle cyntaf.

  • I gyflawni contract rydym wedi’i gwblhau gyda chi fel unigolyn, sef asesiad neu raglen hyfforddiant, yn ôl pob tebyg. 

  • At ddibenion monitro cydraddoldeb, i ddeall amrywiaeth ein carfan ymgeiswyr, ar yr amod bod y gyfraith berthnasol yn caniatáu hyn. (Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hanonymeiddio a’i chydgasglu).

  • Gwella’r gwasanaeth rydym ni’n ei gynnig. Er enghraifft, gellid gofyn i chi gwblhau un o’n harolygon boddhad ar-lein.

  • At ddibenion marchnata uniongyrchol, i ddeall sut rydych chi’n defnyddio ac yn rhyngweithio â’n Gwasanaethau recriwtio, ein gwefan a gohebiaeth flaenorol rydym ni wedi’i hanfon atoch, ac yna i anfon gwybodaeth atoch am ein Gwasanaethau, papurau gwyn, cylchlythyron, digwyddiadau ac ati a fydd, yn ein barn ni, yn berthnasol i’r diddordebau a fynegoch neu a awgrymoch, neu a fyddai’n berthnasol yn gyffredinol i rywun yn eich swydd chi. Sylwch y gallwch roi’r gorau i dderbyn deunyddiau marchnata unrhyw bryd trwy ysgrifennu atom.

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth yn unol â’r Polisi hwn, neu pan fydd y gyfraith yn gofyn i ni neu’n ein hawdurdodi i ddatgelu eich gwybodaeth i bobl eraill neu pan fydd gennym eich caniatâd i wneud hynny.
 
Sylwch nad ydym yn gyfrifol am weithgareddau prosesu data pobl eraill, fel ein cleientiaid. 

Cleient
 
Byddwn yn defnyddio data cleientiaid i gyflawni ein Gwasanaethau i chi ac i gyflawni dibenion busnes dilys eraill, fel marchnata.

Ffynhonnell a Chanolwr 
 
Byddwn yn defnyddio data ffynhonnell a data canolwyr i gyflawni ein Gwasanaethau, yn benodol, fel y gallwn gael eich barn am ymgeisydd.
 
Hefyd, gallem ddefnyddio’r wybodaeth hon fel y gallwn farchnata ein Gwasanaethau i chi fel darpar gleient. Yn ogystal, gallem eich gwahodd i fod yn ymgeisydd yn gysylltiedig â darparu ein Gwasanaethau.

Y math o ddata personol rydym ni’n ei gasglu a’i brosesu 

Ym mhob achos, byddwn yn casglu ac yn prosesu data personol amdanoch chi, gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost.

Ymgeisydd 
 
Os byddwch chi’n bwrw ymlaen â chais am swydd, neu os byddem yn ymgynghori â chi am rôl, gall fod yn ofynnol i chi gyflwyno data personol ychwanegol. Er enghraifft, dyddiad geni, hanes addysg a gyrfa, a curriculum vitae (CV), neu ddisgrifiad. Gall eich CV neu’ch disgrifiad gynnwys hanes cyflogaeth, addysg, cymwysterau proffesiynol, manylion aelodaeth, manylion papurau a ysgrifennoch, geirdaon a chanolwyr, ymhlith eraill. 
 
Ar sail eich cydsyniad penodol, byddwn hefyd yn prosesu unrhyw asesiadau seicometrig perthnasol, profion seicolegol neu ganlyniadau o asesiadau neu brofion o’r fath. 
 
O bryd i’w gilydd, gallem ofyn i chi ddarparu gwybodaeth yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig, fel eich hil neu’ch statws priodasol. Gwnawn hyn at ddibenion monitro cyfle cyfartal ac ar-lein o bryd i’w gilydd, dim ond os yw cyfraith leol yn caniatáu hynny. Bydd y wybodaeth hon bob amser wedi’i hanonymeiddio a’i chydgasglu, ac ni fydd yn cael ei datgelu i drydydd partïon heb eich cydsyniad penodol.
 
Hefyd, gallem gasglu data personol o gronfeydd data trydydd parti a ffynonellau cyhoeddus eraill.

Cleient
 
Ynghyd â gwybodaeth gyswllt sylfaenol, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich rôl a gwybodaeth arall y mae eich sefydliad yn ei darparu i ni.
 
Ffynhonnell a Chanolwr 
 
Ynghyd â gwybodaeth gyswllt sylfaenol, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich hygrededd fel ffynhonnell, manylion am eich perthynas ag ymgeisydd/gwybodaeth am ymgeisydd a’ch barn am yr unigolyn hwnnw. Gallem gael y wybodaeth hon yn uniongyrchol oddi wrthoch neu mae’n wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus.

Beth rydym ni’n ei wneud 

Ar gyfer rolau penodol, gallem gyflwyno hysbyseb y gallwch ymateb iddo, naill ai’n electronig neu drwy’r post. Ar gyfer rolau eraill, gallai un o’n hymchwilwyr neu ymgynghorwyr eich ffonio i drafod y manylion. Yna, byddwn naill ai’n rhoi gwybod i chi ar lafar y byddwn yn prosesu eich data personol neu’n anfon Hysbysiad Preifatrwydd Data atoch. Bydd y naill a’r llall yn eich cyfeirio at y Polisi Preifatrwydd hwn.
 
Heblaw am lenwi swyddi arwain penodol, rydym hefyd yn prosesu data personol pan fyddwn yn cynnal ymarferion deallusrwydd y farchnad i fapio sectorau neu swyddogaethau busnes penodol i helpu cleientiaid i ddeall y doniau sydd ar gael. 

Data sensitif 

O bryd i’w gilydd, byddwn yn ceisio eich cydsyniad i brosesu data personol at rai dibenion penodol a chyfyngedig. Byddwn bob amser yn gwneud hyn cyn prosesu unrhyw ddata personol sensitif: tras hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafar, data ynghylch iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig a/neu ddata biometrig. Rydym yn eich annog i beidio â darparu data personol sensitif i ni oni bai ein bod yn gofyn yn benodol amdano ac rydym ni wedi cael eich cydsyniad.

Cytundebau lleol 

Mewn gwledydd penodol, ni fyddwn yn casglu data personol gennych oni bai eich bod wedi cytuno’n benodol i hyn. Gallai eich cytundeb ddod trwy flwch ticio electronig ar ein gwefan neu sianeli electronig eraill, neu trwy fesurau tebyg eraill sy’n ofynnol yn ôl cyfreithiau preifatrwydd a diogelu data lleol.
 
Hefyd, gallem ddarparu Gwasanaethau i’n cleientiaid mewn gwledydd penodol a all gynnwys asesu a hyfforddi eu gweithwyr. Yma, yn dibynnu ar yr aseiniad penodol, byddwn naill ai’n prosesu eich data personol i fodloni buddiannau dilys y cleient neu i weithredu ar eu rhan, yn unol â’u cyfarwyddiadau. Os bydd ein Gwasanaethau’n cynnwys unrhyw asesiadau seicometrig neu brofion seicoleg, ac nid ydym yn gweithredu ar ran eich cyflogwr, byddwn yn cael eich cydsyniad penodol. 
 
Mewn rhai lleoliadau, byddwn yn darparu Gwasanaethau i unigolion, fel asesu a hyfforddiant. Yma, byddwn yn prosesu data personol er mwyn cyflawni’r contract gyda chi. Os bydd ein Gwasanaethu’n cynnwys unrhyw asesiadau seicometrig neu brofion seicoleg, byddwn yn cael eich cydsyniad penodol.

Eich hawl i wrthwynebu a bod eich data’n cael ei ddileu

Nid oes dyletswydd arnoch i ddarparu unrhyw ddata personol i ni. Fodd bynnag, sylwch y gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu’ch ystyried yn gysylltiedig ag yr un o’n Gwasanaethau. 
 
Cofiwch, gallwch dynnu cydsyniad a roesoch eisoes yn ôl unrhyw bryd ac mae gennych yr hawl i ofyn i ni roi’r gorau i brosesu unrhyw ddata personol ac i’r data gael ei ddileu os nad oes gennym reswm cyfreithlon dros barhau i brosesu eich data mwyach. Hefyd, mae gennych yr hawl i wrthwynebu unrhyw brosesu eich data a wnawn ar sail ‘buddiant dilys’, neu fod prosesu’n cael ei gyflawni at ddibenion marchnata uniongyrchol. Gweler adran 11 isod am gyfarwyddiadau ar sut i  atal cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol. 
 
O dan yr amgylchiadau hyn, cadwn yr hawl i gynnal data personol sylfaenol fel eich enw a’ch cyfeiriad. Gwneir hyn i sicrhau na fyddwn yn prosesu eich data personol yn y dyfodol. 
 
Sylwch nad oes unrhyw benderfyniadau awtomataidd, fel proffilio ymgeisydd yn gyfrifiadurol, yn cael eu gwneud ar sail y wybodaeth a gasglwn.

Cylchlythyron a chyfathrebiadau eraill 

Os hoffech gael un o’n cylchlythyron, gofynnwn i chi roi eich enw, eich cyfeiriad e-bost, teitl eich swydd, enw’ch cwmni a’ch gwlad breswyl i ni.
 
Pan fyddwch wedi nodi yr hoffech gael cylchlythyr(on) gennym, gallem anfon hysbysiadau a bwletinau e-bost am ein Gwasanaethau ac unrhyw rolau a allai fod o ddiddordeb i chi. 
 
Gallwch roi’r gorau i danysgrifio i’n negeseuon marchnata electronig trwy ddilyn y cyfarwyddiadau “dad-danysgrifio” sydd wedi’u cynnwys yn ein cyfathrebiadau. Hefyd, gallwch newid eich dewisiadau a rhoi’r gorau i dderbyn marchnata uniongyrchol gennym trwy osodiadau eich cyfrif e-bost.
 
O bryd i’w gilydd, gallem gysylltu â chi gyda diweddariadau am ein Gwasanaethau, ein telerau busnes neu ddim ond i sicrhau bod y data sydd gennym yn gyfredol ac yn berthnasol.

Arolygon boddhad 

Os byddwch chi’n cymryd rhan mewn arolwg boddhad defnyddiwr, gallem ofyn i chi roi data personol i ni, gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch barn a’ch safbwyntiau. 

Darparu gwybodaeth i bobl eraill 

I’n helpu i gynnal y wefan hon ac i ddarparu Gwasanaethau chwilio gweithredol neu Wasanaethau asesu mewn gwledydd penodol, rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid dibynadwy y mae angen i ni rannu data personol gyda nhw. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys:

  • Swyddfeydd Odgers Berndtson eraill ar draws y byd, sydd wedi ymuno â Chytundeb Trosglwyddo Data o Fewn y Grŵp. Mae hyn yn ein galluogi i drosglwyddo data personol i’n grŵp rhyngwladol.
  • Ein cleientiaid, yr ydym yn darparu Gwasanaethau chwilio gweithredol iddynt.
  • Ein cleientiaid, yr ydym yn cynnal asesiadau o’u gweithwyr ac yn rhoi hyfforddiant iddynt mewn gwledydd penodol.
  • Darpar gleientiaid, pan allai fod angen i ni ddangos dealltwriaeth o farchnad benodol a’r unigolion sy’n gweithio ynddo.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth dim ond fel y disgwylir o fewn y Polisi Preifatrwydd hwn a, phryd bynnag y bo’n briodol, byddwn yn cyfyngu’r datgeliad i wybodaeth ar ffurf sydd wedi’i chydgasglu, i osgoi neu gyfyngu ar ddatgelu pwy ydych chi. 
 
Lle byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda thrydydd parti, ni fydd yn cysylltu â chi oni bai ein bod wedi cael eich cydsyniad ymlaen llaw.

Trydydd partïon 

Hefyd, gallem ddarparu gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti sy’n prosesu gwybodaeth ar ein rhan. Mae hyn i’n helpu i gynnal rhai o’n gweithrediadau busnes mewnol, gan gynnwys dosbarthu negeseuon e-bost, marchnata, gwasanaethau TG a gwasanaethau cwsmeriaid. Fel rhan o’n cytundebau gyda nhw, mae’n ofynnol i’r trydydd partïon hyn brosesu data o’r fath yn ddiogel ac yn unol â’n cyfarwyddiadau yn unig.  
 
Gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu hefyd gyda sefydliadau wedi’u lleoli rywle arall yn y byd gan gynnwys, heb gyfyngiad, yn Unol Daleithiau America. Gan nad yw eu cyfreithiau preifatrwydd efallai’n cyfateb i safonau eich gwlad gartref, byddwn ond yn trosglwyddo os byddwn wedi rhoi unrhyw drefniadau diogelu ar waith yn y lle cyntaf, sef y ‘cymalau cytundebol safonol’ yn fwyaf cyffredin, sy’n ofynnol o dan gyfraith berthnasol. Mae hawl gennych wneud cais am gopi o unrhyw drefniadau diogelu a ddefnyddiwn i drosglwyddo eich data personol i drydydd gwledydd. 
 
Weithiau, gall fod angen i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch i gyrff gorfodi’r gyfraith, asiantaethau neu drydydd partïon, o dan ofyniad cyfreithiol neu orchymyn llys. Byddwn yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn cyfrif, lle bynnag y bo’n bosibl, am eich buddiannau wrth ymateb i’r ceisiadau hyn.  
 
Os ydych yn pryderu am y trefniadau hyn i ddatgelu neu rannu data personol gyda thrydydd parti, dylech gysylltu â ni a gofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol.

Cadw gwybodaeth yn ddiogel  

Rydym yn buddsoddi adnoddau sylweddol er mwyn diogelu eich data personol rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio, rhag mynediad anawdurdodedig ato, ei addasu neu ei ddatgelu. Fodd bynnag, ni all yr un system fod 100% yn ddiogel ac, felly, ni allwn gael ein dwyn yn gyfrifol am fynediad anawdurdodedig neu anfwriadol sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Gwybodaeth am bobl eraill 

Os byddwch yn darparu gwybodaeth i ni am unigolion eraill, fel manylion canolwr neu gyswllt personol, mae'n rhaid i chi sicrhau eu bod wedi cytuno i hyn. Ein cyngor i chi fyddai cadw cofnod o’u cytundeb a rhoi copi o’r Polisi Preifatrwydd hwn iddynt, neu ddolen iddo.

Cadw eich cofnodion 

We keep your personal data for as long as required to provide our Services, and in accordance with legal, tax and accounting requirements. Where your personal data is no longer required, we will ensure it is disposed of in a secure manner. Where required by law, we will notify you when this has happened. 

Hawliau mynediad 

O dan ambell awdurdodaeth, gall fod hawl gennych ofyn am gopïau o’r data personol rydym ni’n ei gadw amdanoch. Os ydych o’r farn bod unrhyw agwedd ar y data hwnnw yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei gywiro, hefyd. Efallai bydd gennych hawl hefyd, o dan rai amgylchiadau, i ofyn ein bod yn rhoi’r gorau i brosesu eich data personol. Hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo eich data personol i rywun rydych chi’n ei enwebu at eich dibenion eich hun.
 
I gysylltu â ni am unrhyw agwedd ar hyn, e-bostiwch neu ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod. Sylwch y gallem ofyn am dystiolaeth o bwy ydych chi. Byddwn yn ymateb i’r ceisiadau o fewn yr amserlen sy’n berthnasol yn y wlad dan sylw. 
 
O dan rai amgylchiadau, mewn gwledydd lle y bo’n ofynnol neu’n cael ei ganiatáu yn ôl gyfraith, efallai na fyddwn yn gallu rhoi mynediad i chi i rywfaint o’ch data personol. Lle bynnag y bo’n bosibl, byddwn yn eich hysbysu o’r rhesymau dros hyn. 

Gwybodaeth am ein gwefannau  

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n gwefannau hefyd, lle’r ydym yn prosesu data personol o fewn a thrwy’r wefan hon a’n gwefannau partner: www.odgersberndtson.com, www.berwickpartners.co.uk, www.berwicktalentsolutions.com, www.odgersinterim.com, www.odgersinterim.ca ac www.odgersconnect.com

Prif ddiben ein gwefannau yw rhoi gwybodaeth i chi am y Gwasanaethau a ddarperir trwy grŵp cwmnïau ac ymgynghorwyr Odgers Berndtson. Mewn rhai gwledydd, gallwch ddefnyddio gwefan i weld swyddi a gwneud cais amdanynt.
 
Mewn rhai gwledydd, efallai y gallwch sefydlu cyfrif defnyddiwr. Gofynnir i chi gofrestru enw defnyddiwr a chyfrinair fel y gallwch sicrhau mynediad i’ch cyfrif. Gall y ficro-wefan â brand Odgers Berndtson yr ydych yn ei defnyddio i fynd at eich cyfrif fod ym mherchnogaeth ar wahân i’r wefan hon ond mae’n ufuddhau i bob agwedd ar y Polisi Preifatrwydd hwn. 

Defnyddiwn y data personol rydym ni’n ei gasglu gennych chi ar ein gwefan at ddibenion ychwanegol fel personoli golwg a theimlad y wefan i gyd-fynd â’r dewisiadau personol sy’n cael eu casglu o’r ffordd rydych chi’n defnyddio’r safle (Gweler yr adrannau “Dadansoddeg” a “Chwcis” am ragor o wybodaeth.) 

Gallem ddatgelu neu rannu data personol gyda thrydydd partïon fel yr amlinellir uchod i weithredu’r wefan a darparu ein Gwasanaethau chwilio gweithredol, ynghyd â Gwasanaethau asesu mewn rhai gwledydd. Os ydych chi’n pryderu am y trefniadau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r wefan a dylech gysylltu â ni er mwyn gofyn i ni beidio prosesu eich data personol.
 
Yn olaf, gallem hefyd ddefnyddio eich data i helpu ein cleientiaid i ddeall pwy sy’n defnyddio ein gwefan a sut mae pobl yn edrych ar eu swyddi gwag. 

Diweddaru eich cyfrif a’ch dewisiadau 

Os byddwch chi’n cofrestru cyfrif gyda ni, neu gyda phartner lleol sy’n darparu porth ymgeisio am swydd ar ein rhan, cadwch eich manylion yn gyfredol a rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch data personol. Gallwch wneud hyn trwy ddiweddaru eich dewisiadau defnyddiwr trwy fewngofnodi i’ch cyfrif neu trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Dadansoddeg

Rydym ni’n defnyddio offer dadansoddeg a chwcis ar y wefan hon i helpu i ddarparu ein gwasanaethau ar-lein, nodi unrhyw broblemau â gwasanaethau, gwella’n Gwasanaethau, darparu cynnwys wedi’i deilwra i ddewisiadau personol defnyddwyr ac i fonitro traffig i’r wefan a’r defnydd ohoni.
 
Gellir darparu’r offer hwn gan ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti a gallant gynnwys casglu a thracio data a gwybodaeth benodol ynghylch nodweddion a gweithgareddau ymwelwyr â’n gwefan. Gallem ddatgelu data, gan gynnwys data personol, i ddarparwyr Gwasanaethau trydydd parti penodol er mwyn cael Gwasanaethau o’r fath. 

Un o’r darparwyr hyn yw Google Analytics. Mae mwy o wybodaeth am y ffyrdd y gallant gasglu a phrosesu eich data personol i’w chael yma:  www.google.com/policies/privacy/partners 

Gallwch optio allan o Google Analytics yma: tools.google.com/dlpage/gaoptout 

Hefyd, rydym ni’n defnyddio Hotjar er mwyn deall anghenion ein defnyddwyr yn well ac i wneud y mwyaf o’n gwasanaeth a’n profiad. Am fanylion pellach, gweler polisi preifatrwydd Hotjar trwy glicio ar y ddolen hon. Sylwch nad yw Hotjar yn storio data personol adnabyddadwy ond mae'n storio proffil defnyddiwr anhysbys. Ni fydd Hotjar na ninnau fyth yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatgelu pwy yw defnyddwyr unigol nac i’w pharu â data pellach am ddefnyddiwr unigol.

Gallwch optio allan o greu proffil defnyddiwr, o storio data gan Hotjar am eich defnydd o’r safle a defnydd Hotjar o gwcis tracio ar wefannau eraill trwy ddilyn y ddolen hon i optio allan.

Cwcis  

Ffeiliau cyfrifiadurol bach yw cwcis sy’n cael eu lawrlwytho ar eich dyfais pan fyddwch yn pori’r we. Maent yn casglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n llywio ac yn defnyddio’r wefan hon a’r we yn ehangach. Gall y wybodaeth hon ganiatáu i ni eich adnabod chi neu eich lleoliad yn fras. Mae cwcis hefyd yn ein helpu i roi profiad mwy personol i chi, fel fersiwn leol o’r wefan mewn iaith leol. Hefyd, mae gwybodaeth o gwcis yn caniatáu i ni wneud gwelliannau i’n Gwasanaethau. 
 
Rydym ond yn casglu cwcis "sesiwn", nad ydynt yn cael eu storio fel arfer ar ôl i’ch sesiwn bori ddod i ben. Defnyddir y rhain i sefydlu eich lleoliad yn fras ac i ddarparu’r wefan mewn iaith briodol. (Caiff cyfeiriadau IP eu casglu yn ystod y broses hon.)
 
Gallwch ddileu a blocio pob cwci, neu ddim ond mathau penodol o gwcis, trwy osodiadau eich porwr. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis blocio neu ddileu cwcis, gall hyn effeithio ar nodweddion y wefan. 

Gwefannau trydydd parti 

Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig. Os byddwch chi’n glanio ar ein gwefan o wefannau eraill neu’n symud i wefannau eraill o’n gwefan ni, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd ar wahân.

Gweithdrefn gwyno 

If you have a complaint about how we have handled your personal data, contact us using the details below, and we will investigate your complaint. Please use the same contact details to instruct us to cease processing your personal data. 

Contacting us 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu os hoffech arfer eich hawliau o ran eich data personol, cysylltwch â ni ar data.administrator@odgersberndtson.com, neu ysgrifennwch at: 

Data Administrator 

Odgers Berndtson 

20 Cannon Street 

London, EC4M 6XD 

United Kingdom 

Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data, David Peters ar david.peters@odgersberndtson.com 

mask

Looking for a new role?

Visit our opportunities page to browse our publicly-advertised roles and submit your CV.

Explore opportunities

Join us

The next step of your career starts here. 
Join us and stand out.

Follow us

Join us on our social media channels and see how we're addressing today's biggest issues.

Find a consultant [[ Scroll to top ]]